Newyddiadurwr – Radio Cymru & Cymru Fyw

vacanciesineu.com

Pecyn Swydd

Cyflog : £27,300 – £35,000 y flwyddyn yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad.

Croesawir cynigion ar gyfer rhannu swydd. Bydd angen cynnwys manylion y trefniadau arfaethedig yn eich cais.

Rydym yn gweithredu cynllun gweithio hybrid- ble mae disgwyl i staff weithio rhai shifftiau neu/a dyddiau penodol yn un o swyddfeydd y BBC.

Cyflwyniad i’r Swydd

Mae’r adran yn darparu gwasanaeth newyddion Cymraeg ar BBC Cymru Fyw a BBC Radio Cymru saith diwrnod yr wythnos. Mae staff yn gweithio ar draws sawl canolfan yng Nghymru ac yn gweithio sifftiau o 4.00yb tan 23.00yh. 

Prif Gyfrifoldebau

Byddai disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus allu darganfod ac ymchwilio i straeon gwreiddiol, gan gefnogi gwaith cynhyrchwyr yr adran.

Mae angen y gallu i ddod o hyd i ddeunydd addas fel lluniau neu fideo i gyd-fynd â straeon, a chynhyrchu’r gwaith ar feddalwedd ar gyfer y wefan

Bydd hefyd angen gallu cynhyrchu ac ymchwilio cynnwys ar gyfer radio (gan gynnwys golygu sain), wrth i’r adran weithio’n agos ar draws platfformau gwahanol.

Ai chi yw’r person cywir?

Fel newyddiadurwr, mae angen trwyn am stori a’r gallu i ddatblygu syniadau ar gyfer creu erthyglau ac eitemau radio fyddai o ddiddordeb i’n cynulleidfaoedd.

Fe fydd angen dealltwriaeth o faterion cyfreithiol a materion polisi golygyddol ar yr ymgeisydd buddugol.

Mae’r gallu i ysgrifennu Cymraeg safonol yn hanfodol.

Fe fydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i weithio yn effeithiol dan bwysau ac i gwblhau gwaith yn gyflym ac yn effeithiol yn brydlon, drwy gyd-weithio â thimoedd eraill, yn ogystal â’r gallu i weithio ar eich pen eich hun.

Mae dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o anghenion y gynulleidfa yn hanfodol, yn ogystal â’r gallu i feddwl am gynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd sydd ddim yn ddefnyddwyr cyson o’n gwasanaethau ar hyn o bryd.

Sgiliau a Phrofiad

  1. Cymhwyster newyddiadurol cydnabyddedig neu brofiad perthnasol.
  2. Barn newyddiadurol o’r radd flaenaf – ac ymwybyddiaeth o gyfraith ym maes darlledu.
  3. Cymraeg cywir a sgiliau ysgrifennu da.
  4. Profiad o chwilio a gweithio ar straeon gwreiddiol, yn ogystal â threfnu cynnwys i wasanaethau Cymraeg ar straeon Prydeinig a rhyngwladol.
  5. Profiad o gydweithio ag eraill fel rhan o dîm bach prysur.
  6. Gwybodaeth am ganllawiau golygyddol y BBC.
  7. Dealltwriaeth o anghenion y gynulleidfa a gwybodaeth drylwyr am Gymru, yn ogystal â materion Prydeinig a rhyngwladol.
  8. Y gallu i weithio yn gyflym a chywir o dan bwysau.

Cymwyseddau

Mae’r cymwyseddau isod yn allweddol er mwyn llwyddo yn y swydd hon. Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos y cymwyseddau hyn.

Cymraeg clir a chywir – Y gallu i gyflwyno stori yn syml mewn iaith sy’n gywir a dealladwy i’r gynulleidfa.

Barn Olygyddol – gallu dangos barn gytbwys a gwrthrychol, a gweithio o fewn cyfyngiadau cyfreithiol a golygyddol, gan ddeall anghenion y gynulleidfa.r

Deall Amrywiaeth – Dangos dealltwriaeth o amrywiaeth ac ymrwymiad i wella amrywiaeth. Gallu egluro sut mae gwahaniaethau o fewn cymdeithas yn gallu bod o fudd i’r BBC.

Technoleg – diddordeb mewn sut i gynhyrchu deunydd sain, fideo a lluniau mewn ffordd greadigol.

Cyfryngau Cymdeithasol – sut i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, a chreu deunydd fyddai’n apelio ar y platfformau hynny.

Cynllunio a Threfnu – gallu cynllunio’n drylwyr er mwyn rhagweld problemau a’u datrys. Gallu blaenoriaethu a chynllunio gwaith gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.

Read Full Description

Apply
To help us track our recruitment effort, please indicate in your cover//motivation letter where (vacanciesineu.com) you saw this job posting.

Share
admin

Published by
admin

Recent Posts

SEN Teaching Assistant

Job title: SEN Teaching Assistant Company: Prospero Teaching Job description We are looking for a…

4 minutes ago

Medical Information Specialist (Pharmacist/Biologist)

Job title: Medical Information Specialist (Pharmacist/Biologist) Company: QuiCare Job description QuiCare è un'azienda leader nello…

5 minutes ago

Land Manager

Job title: Land Manager Company: Green Recruitment Company Job description ​The Green Recruitment Company está…

6 minutes ago

Health Safety Environment and Sustainability Coordinator

Location: Sutton (SM1) - Surrey, South East, United Kingdom Salary: £18,555 - 21,168 per year…

14 minutes ago

iOS Developer (Swift experience)

Job title: iOS Developer (Swift experience) Company: TeamQuest Job description TeamQuest Sp. z o.o.Our client…

24 minutes ago

Sr. Service Delivery Manager

Job title: Sr. Service Delivery Manager Company: Columbus Denmark Job description Vil du skabe fantastiske…

31 minutes ago
If you dont see Apply Button. Please use Non-Amp Version