Electric Vehicle Infrastructure (Public) Manager

  • Contract
  • Cardiff
  • Posted 1 week ago

Cardiff Council

vacanciesineu.com

Cardiff is growing faster than any other major city in the UK outside of London and is
projected to grow more than every other local authority in Wales combined. Cardiff Council’s
Transport White Paper and One Planet Cardiff Strategy set out ambitious plans to tackle the
climate emergency, reduce congestion and improve air quality in the Welsh capital. A critical
part in the delivery of these plans is to support the transition to Electric Vehicles.

This is a superb opportunity to be at the heart of one of the most exciting and dynamic
economies in the UK at an exciting time in the City’s development whilst tackling the causes of
climate change and changing how people move around our growing city.

You will be at the forefront of leading the development and delivery of public electric vehicle
charging infrastructure on the highway. You will work collaboratively and flexibly across the
council and with external partners to deliver comprehensive and innovative highway charging
services for the city.

You will need to have a clear vision of the strategic challenges as a well as an eye for the
detail in delivery and operation. You will be our specialist in this area.

You will need to be able to think commercially and develop business plans to ensure the
long-term delivery of services. You should have extensive experience in working in the
transport, Highways or Climate Change fields. Above all you will have significant experience of
working in the electric vehicle infrastructure sector.

Sound project and contract management skills that you have successfully applied to
infrastructure-based projects will be essential.

You will also be able to demonstrate where you have worked in partnership with a range of
partners on complex projects and challenged accepted norms. You will have confidence to lead
project teams and be an advocate for responding to the Climate Emergency.


Rheolwr Seilwaith Cerbydau Trydan (Cyhoeddus)

Cyfeirnod: PLA00379

Dyddiad cau: 09/07/2024

Ystod Cyflog: Gradd 7 – £33,945 – £38,223

Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a
disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur
Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd a Strategaeth Caerdydd Un Blaned yn amlinellu cynlluniau
uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd aer ym
mhrifddinas Cymru. Rhan hanfodol wrth gyflawni’r cynlluniau hyn yw cefnogi’r newid i Gerbydau
Trydan.

Mae hwn yn gyfle gwych i fod wrth wraidd un o economïau mwyaf cyffrous a deinamig y DU ar adeg
gyffrous yn natblygiad y Ddinas a mynd i’r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd a newid y
ffordd y mae pobl yn symud o gwmpas ein dinas sy’n tyfu.

Byddwch yn flaenllaw yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno seilwaith gwefru cerbydau
trydan cyhoeddus ar y briffordd. Byddwch yn gweithio ar y cyd ac yn hyblyg ar draws y cyngor a
chyda phartneriaid allanol i ddarparu gwasanaethau gwefru priffyrdd cynhwysfawr ac arloesol ar
gyfer y ddinas.

Bydd angen i chi gael gweledigaeth glir o’r heriau strategol yn ogystal â llygad am y manylion
wrth gyflawni a gweithredu. Chi fydd ein harbenigwr yn y maes hwn.

Bydd angen i chi allu meddwl yn fasnachol a datblygu cynlluniau busnes i sicrhau bod
gwasanaethau’n cael eu darparu yn yr hirdymor. Dylech fod â phrofiad helaeth o weithio ym
meysydd trafnidiaeth, priffyrdd neu newid yn yr hinsawdd. Yn anad dim, bydd gennych brofiad
sylweddol o weithio yn y sector seilwaith cerbydau trydan.

Bydd sgiliau rheoli prosiectau a chontractau cadarn yr ydych wedi’u cymhwyso’n llwyddiannus i
brosiectau seilwaith yn hanfodol.

Byddwch hefyd yn gallu dangos lle rydych wedi gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o
bartneriaid ar brosiectau cymhleth ac wedi herio normau derbyniol. Bydd gennych hyder i arwain
timau prosiect a bod yn eiriolwr dros ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd.

Find out more & apply

To help us track our recruitment effort, please indicate in your email/cover letter where (vacanciesineu.com) you saw this internship posting.

Job Location