Ad Warrior
- Location:
- Gwent, Wales, United Kingdom
- Salary:
- £35,412 – 39,152 per year
- Type:
- Permanent
- Main Industry:
- Search Government & Public Sector Jobs
- Advertiser:
- Ad Warrior
- Job ID:
- 132893580
- Posted On:
- 17 April 2026
CYNGOR CYMUNED GELLIGAER – CLERC / SWYDDOG ARIANNOL CYFRIFOL
RHAN-AMSER – 23 AWR YR WYTHNOS – A£35,412 i A£ A£39,152 yf pro rata.
(A£22,013 i A£24,338 yf) Disgwylir adolygiad cyflog o’r 1af Ebrill
Mae gan Gyngor Cymuned Gelligaer dri ar ddeg o gynghorwyr sydd rhyngddynt yn gyfrifol am gynrychioli a gwasanaethu trigolion wyth pentref bychan a thref Ystrad Mynach yng Nghwm Rhymni yn Ne Ddwyrain Cymru.
Rydym yn weithgar yn y gymuned ac mae gennym gyfrifoldeb cyffredinol am wella llesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ein trigolion. Mae rheoli’r amgylchedd yn arbennig o bwysig inni, ac mae ein gweithgareddau yn y maes hwn yn cynnwys codi a gofalu am fasgedi crog, plannwyr ar reiliau a phalmentydd a’r llynedd, am y tro cyntaf, fe roesom enw Ystrad Mynach yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau ac enillodd wobr ‘Golch Arian’.
Rydym hefyd yn cefnogi saith cymdeithas rhandiroedd trwy grantiau blynyddol a gwaith prosiect amrywiol. Yn naturiol, rydym yn darparu llawer o wasanaethau eraill ac mae’r hyn a gyflawnwn yn digwydd oherwydd ymroddiad, help ac ymrwymiad ein gwirfoddolwyr, sy’n gymysgedd fechan o fasnachwyr, pobl leol ac aelodau’r cyngor. Rhyngom, rydym yn cynrychioli poblogaeth o bron i 14,000 o etholwyr ac mae gennym wariant disgwyliedig ar gyfer 2026/27 o tua A£170,000.
Wrth inni gynnal ein hymrwymiad i lesiant y gymuned, rydym yn falch o gyhoeddi cyfle i weithiwr proffesiynol ymroddedig ymuno â’n Cyngor prysur yn Glerc & Swyddog Ariannol Cyfrifol (SAC).
Gan weithio’n bennaf o swyddfeydd y Cyngor Tref ym Mhenpedairheol, bydd angen i ymgeisyddion arddangos casgliad deinamig o sgiliau, a’r gallu i feddwl a gweithredu’n strategol, ynghyd â meddu ar brofiad o reolaeth weinyddol mewn amgylchedd cymhleth. Bydd angen ichi allu deall cyfraith a gweithdrefnau llywodraeth leol, meddu ar wybodaeth ariannol gadarn a phrofiad o fod yn rheolydd llinell ar staff. Bydd angen hefyd ichi allu cynrychioli’r Cyngor mewn trafodaethau gyda chyrff allanol. Mae sgiliau TG ‘Office’ medrus yn hanfodol hefyd.
Byddwch yn atebol i’r Cyngor yn gyfan, ac yn gweithredu’n brif ymgynghorydd ar bob mater yn ymwneud â llywodraethiant er mwyn iddo allu cyflawni ei gyfrifoldebau statudol. Byddwch yn chwarae rôl allweddol yn cynghori a chefnogi llunio polisïau, a gofalu fod penderfyniadau’r Cyngor yn cael eu gweithredu’n effeithiol. Bydd disgwyl hefyd ichi fynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda’r nos ac ambell benwythnos.
Mae disgwyl y bydd gennych, neu y byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol priodol (Tystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol neu gymhwyster cyfatebol). Mae disgwyl hefyd y byddwch yn ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yn hanfodol.
Er mwyn cael rhagor o fanylion am y swydd gan gynnwys y disgrifiad swydd, manyleb berson a ffurflen gais ewch i’n gwefan yn:
gelligaercommunitycouncil.uk/jobs-at-gelligaer-community-council/
Ni dderbynnir dogfennau CV .
DYDDIAD CAU: 23.59pm ar ddydd Gwener 8fed Mai 2026
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer yr ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ddydd Iau 4ydd a dydd Gwener 5ed Mehefin
Mae Cyngor Cymuned Gelligaer yn Gyflogydd Cyfleoedd Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.
To help us track our recruitment effort, please indicate in your email/cover letter where (vacanciesineu.com) you saw this job posting.
